Robert Gregory Jenkins (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn 58 oed sydd ar goll o Abertawe.
Maen nhw’n gofidio am ddiogelwch Robert Gregory Jenkins, sydd heb gael ei weld ers dydd Iau (Awst 3).
Cafodd ei weld ddiwethaf yn gadael y Premier Inn ar Heol Langdon y ddinas.
Mae lle i gredu bod ganddo fe ddau frawd – Leighton, 61, ac Alan – ond dydy’r heddlu ddim wedi gallu cysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Robert Jenkins, neu sy’n adnabod ei frodyr, gysylltu â’r heddlu ar 101.