Fe fydd gorymdaith amryliw ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern yr wythnos hon yn dathlu llais pobol ifanc.

Fe fydd gorymdaith ‘Sbectol Haul’ yn dechrau ym Maes B ac yn gorymdeithio drwy brif faes yr Eisteddfod ddydd Iau a dydd Gwener.

Mae’r pobol ifanc sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith yn gwneud hynny fel rhan o gynllun cyfranogi pobol ifanc y cwmni theatr Frân Wen.

Yn ôl un aelod o’r cast, Nia Haf: “Mudiad ’di Sbectol Haul sydd wedi ffurfio i ymfalchïo mewn amrywiaeth o leisiau, safbwyntiau, rhywioldeb a gwleidyddiaeth.

“Da ni’n gweld y byd trwy sbectol haul nid er mwyn cael ein dallu gan argyfyngau’r blaned, ond yn hytrach i chwilio am atebion positif a heddychlon.

“Mae o’n cyd-fynd â phenblwydd Maes B yn 20 oed felly mae’n grêt bo’ ni’n gallu cychwyn y daith yn fanno cyn i ni wau trwy draffig y prif faes – fydd hi’n antur theatrig drawiadol fydd yn siwr o ddal sylw.”

Cynhyrchiad

Fe fu’r cast yn cydweithio â’r cerddor Gruff Ab Arwel a’r gwneuthurwr ffilm Yannickk Hammer i greu trac a fideo, a’r holl gymeriadau unigol wedi’u creu gan y darlunydd Matthew Williams.

O fireinio eu sgiliau syrcas gyda chwmni Syrcas Cimera i ddawnsio gyda’r coreograffydd Cêt Haf, mae’r bobl ifanc wedi cael ystod eang o brofiadau yn yr ymarferion.

Dywedodd Mentor Arloesedd Creadigol Frân Wen, Mari Morgan: “Maent wedi gweithio gydag artistiaid proffesiynol dros 6 wythnos i greu perfformiad newydd gwreiddiol sy’n cyfuno cerddoriaeth, theatr a chelf.

”Mae’r tîm ifanc wedi dangos aeddfedrwydd ym mhob agwedd o’u gwaith – o ddelio gyda materion sensitif iawn i ddyfeisio a chreu perfformiadau hynod o bwerus. Bydd Sbectol Haul werth ei weld, ac yn amhosib i anwybyddu.”

Manylion yr orymdaith

Dydd Iau, 10 Awst: 4.30pm ym Maes B ac yn gorffen ar faes yr Eisteddfod am 5.30pm

Dydd Gwener, 11 Awst: 3.30pm ym Maes B ac yn gorffen ar faes yr Eisteddfod am 4.30pm