Mae llefarydd Iaith Gymraeg Plaid Cymru yn y Cynulliad, Siân Gwenllian wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gyflwyno’r Strategaeth Iaith mewn ymgais i guddio diffyg cynnydd.

Dywed yr Aelod Cynulliad dros Arfon fod strategaeth newydd y Llywodraeth yn gwanhau targedau oedd eisoes yn bodoli, ac nad yw’r targedau newydd yn ddigon uchelgeisiol, ac nad oes digon o gerrig milltir tymor byr er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae hi’n dweud bod nifer o dargedau’r llywodraeth yn wan, gan gynnwys sefydlu 40 cylch meithrin newydd erbyn 2021, wrth i’r Mudiad Meithrin awgrymu y byddai’n bosib agor 120 o gylchoedd newydd yn y cyfnod hwnnw.

Dywed hefyd fod y nod o gynyddu’r nifer o blant ysgol gynradd sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2031 yn gwanhau hen darged Llywodraeth Cymru’n Un o gyrraedd y nod erbyn 2020.

‘Record o fethu targedau’n amlwg’

Mewn datganiad, dywedodd Siân Gwenllian: “Mae’n amlwg wrth grafu dan yr wyneb mai ymgais i guddio diffyg cynnydd y llywodraeth ar gyrraedd targedau blaenorol yw’r strategaeth iaith newydd.

“Mae’r llywodraeth yn ceisio cuddio’r ffaith nad yw hi wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau wrth osod rhai newydd, sydd yn llai uchelgeisiol.

“Er ein bod yn croesawu rhai agweddau o’r strategaeth newydd, mae record y llywodraeth o fethu targedau yn amlwg ac rydym yn amau y bydd y llywodraeth yn gostwng y targedau ymhellach pan na fydd yn cyrraedd y nod.”

Ymchwil

Ychwanegodd: “Mae ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith wedi amcangyfrif y bydd y targedau yn y maes addysg ond yn creu 110,000 o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, o’i gymharu â’r 400,000 sydd eu hangen.

“Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd addysg yn elfen ganolog o’r strategaeth, felly mae’n rhaid codi’r cwestiwn – o ble mae’r 400,000 arall yn dod?

“Mae’r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn dweud wrthym fod hi’n gwbl bosib i ni fod yn fwy uchelgeisiol na hyn. Mae’r Mudiad Meithrin wedi dweud y byddai’n bosib agor tair gwaith cymaint o feithrinfeydd o gymharu a’r hyn mae’r llywodraeth yn anelu ato – pam cyfyngu ar hyn?

“Rydw i’n gobeithio y byddwn yn cael ein plesio pan fydd y gweinidog yn cyhoeddi ei bapur gwyn wythnos nesa. Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gwbl bosib, os yw’r Llywodraeth yn barod i ddangos yr ewyllys gwleidyddol a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen i wireddu.

“Mae Plaid Cymru eisoes wedi amlinellu ein strategaeth ni i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg sydd yn cynnwys camau cadarnhaol sydd angen eu cymryd yn syth i wneud cynnydd gweladwy, yn ogystal â newidiadau tymor hir fyddai’n gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.”