Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Ddinbych yn cwyno bod Llywodraeth Cymru wedi gorfodi’r cyngor sir lleol i ganiatáu codi 7,500 o dai yno.

Yn ôl Pleidwyr Cyngor Sir Ddinbych, maen nhw wedi gorfod darparu’r tai yn seiliedig ar ffigyrau mewnlifiad i’r sir yn y gorffennol, ac nad yw’r angen lleol am dai newydd mor uchel.

Mae pob cyngor sir yn gorfod paratoi Cynllun Datblygu Lleol i nodi faint o dai newydd maen nhw am eu caniatáu, ac yn lle.

Elfen hynod ddadleuol o’r Cynllun yn Sir Ddinbych fu’r penderfyniad i neilltuo tir ar gyfer codi 1,700 o dai newydd ym Modelwyddan.

Bu gwrthwynebiad chwyrn yn lleol oherwydd y byddai yn treblu maint y pentref sy’n agos at ffordd ddeuol yr A55 ac roedd llawer yn mynnu nad oedd galw lleol am dai.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn y broses o adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol, sy’n nodi tir ar gyfer codi tai newydd rhwng 2006-2021.

“Fe aeth y Cynllun Datblygu presennol yn erbyn dymuniadau Cyngor Sir Ddinbych,” meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, “ac i bob pwrpas fe gafodd ei orfodi arnom ni gan Lywodraeth Cymru. Y cwestiwn sydd rhaid ei ofyn ydy: pwy sy’n gyrru’r Cynlluniau Datblygu? Ai’r Cyngor Sir yntau Llywodraeth Cymru? Mae fy mhrofiad i yn dweud mai Arolygwyr Cynllunio’r Llywodraeth sy’n rheoli.”

Yn ôl Plaid Cymru mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ei orfodi i gynllunio a rhoi caniatâd i godi 7,500 o dai newydd “yn seiliedig ar wybodaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, a fynnodd eu pont yn neilltuo lle ar gyfer 1,000 yn rhagor o dai na beth oedd bwriad gwreiddiol y Cyngor”.

“Roedd yna deimladau cryf yn erbyn y cynlluniau i ganiatáu 7,500 o anheddau i gael eu hadeiladu yn Sir Ddinbych,” meddai arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Arwel Roberts.

“Roedd y ffigurau yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar ragamcanion poblogaeth Llywodraeth Cymru.

“Roedd Amcanestyniadau Aelwydydd 2006  Llywodraeth Cymru yn galw am gyfartaledd o 653 o aelwydydd newydd y flwyddyn hyd 2021, ond seiliwyd y ffigwr yma ar batrymau mudo’r pum mlynedd flaenorol a oedd yn arbennig o uchel. Yna yn 2008 rhyddhawyd ffigurau yn dangos yr angen am 540 o aelwydydd newydd y flwyddyn.

“Yn y pendraw cawsom ni darged o 500 y flwyddyn, ond rhwng 1998 a 2011 y cyfartaledd adeiladu oedd 267. Mae hyn yn wahaniaeth sylweddol, ac fe orfododd Llywodraeth Cymru Sir Ddinbych i neilltuo fwy o dir ar gyfer datblygu na’r hyn oedd ar y Sir ei hangen.

“Ar ben hyn mae ganom greisis o ran tai fforddiadwy. Dywedodd Asesiad Marchnad Tai Gogledd Ddwyrain Cymru y dylai 59% o bob datblygiad newydd fod yn fforddiadwy er mwyn ymateb i’r anghenion lleol, ond eto fe orfododd Llywodraeth Cymru y Sir i dderbyn uchafswm o 10%.”

Poblogaeth Sir Ddinbych yn syrthio

Mae Plaid Cymru Sir Ddinbych yn dweud bod poblogaeth y sir yn syrthio ac nad oes galw am filoedd o dai newydd.

Maen nhw wedi beirniadu rhagamcanion poblogaeth Llywodraeth Cymru ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod amcanion poblogaeth y sir wedi disgyn dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd ffigurau Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai poblogaeth y sir yn cynyddu 9,450 rhwng 2008 a 2023, o ragamcan gwaelodol o 96,750 I 106,200, tra mewn gwirionedd mae ystadegau swyddogol yn dangos yr amcanir mai 94,805 oedd poblogaeth y sir yng nghanol 2016.

“Mae’n ymddangos i mi fod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu dymuniadau democrataidd cynrychiolwyr lleol ac wedi gorfodi polisi neilltuo tai sydd ddim yn mynd i’r afael ag anghenion ein cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Glenn Swingler, sy’n cynrychioli Dinbych Uchaf a Henllan,

“Yr hyn a gafwyd oedd polisi oedd yn bodloni datblygwyr a thirfeddianwyr heb ddim ystyriaeth o impact datblygiadau tai o’r fath ar wead ein cymunedau, ein hisadeiledd a gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru’n inept ac nad ydynt yn gweithio er budd ein cymunedau. Wrth i ni adolygu ein cynllun presennol a dechrau paratoi ar gyfer y cynllun nesaf, rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi anghenion a buddiannau ein cymunedau wrth galon pob dim, ac nid anghenion y datblygwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw “mewn sefyllfa i ymateb ar hyn o bryd”.