Bydd gorymdaith yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd dros y penwythnos i ddathlu gŵyl Indiaidd y Ratha Yatra.

Mae’r Ratha Yatra yn cael ei ddathlu mewn 500 o ddinasoedd ledled y byd, a dyma fydd y 12fed dathliad i gael ei gynnal yng Nghaerdydd.

Bydd  yr orymdaith yn cychwyn yn Neuadd y Ddinas ganol dydd, ac yn dilyn hyn bydd gŵyl yn cael ei chynnal rhwng 2yh a 5yh ym Mharc Bute.

Yn ôl y trefnwyr mi fydd “cerddoriaeth, dawnsio, myfyrio a gwledd lysieuol” yn yr ŵyl ac mi fydd mynediad am ddim.

Yn ystod yr orymdaith mi fydd rhannau o Heol y Gogledd, Heol y Dug a Ffordd y Brenin ar gau.