Lluniau teledu cylch cyfyng trwy law Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am help y cyhoedd wrth ymchwilio i ladrad yng nghanolfan Ceudyllau Llechi Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, ganol mis Gorffennaf.

Fe gafodd poteli gwin eu dwyn rywbryd rhwng nos Wener, Gorffennaf 14 a bore Sadwrn, Gorffennaf 15.

Er mwyn apelio am help,d, mae lluniau teledu cylch cyfyng wedi’u rhyddhau heddiw, yn dangos yr unigolyn y mae’r heddlu eisiau siarad efo fo.

Yn y lluniau, mae’n cael ei weld yn gwthio ei ffordd i mewn i gaffi’r Emporiwm yn y ganolfan, ac yn dwyn poteli o win Lunnetta Prosecco a rose a Pinot Grigio.

“O’r lluniau llonydd ydan ni newydd eu cael o’r camerâu CCTV, rydan ni’n awyddus i adnabod y dyn sydd i’w weld yno,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Fe gafodd y lluniau eu tynnu tua 10.50yh nos Wener, Gorffennaf 14 ac, er bod wyneb y dyn wedi’i orchuddio, dw i’n siwr y bydd rhywun yhn ei nabod o. Mae o’n gwisgo top reit unigryw, ac ella y bydd rhywun yn nabod y rycsac ar ei ysgwydd.”