d
Betty Jordan (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae heddlu wedi enwi dynes, 53, a gafodd ei llofruddio ym Mangor fore ddydd Llun (Gorffennaf 31).

Fe ddaeth swyddogion o hyd i Elizabeth Mary Jordan mewn cyflwr difrifol, mewn eiddo yn Nhrem y Garnedd, Maesgeirchen, am 9.02yh.

Cafodd y ddynes leol, a oedd yn cael ei nabod fel ‘Betty’, ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dyn lleol, 54, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio. Mae’n dal i gael ei holi gan dditectifs ar ôl i lys arbennig ddyfarnu bod modd ei gadw yn y ddalfa am 36 awr ychwanegol.

“Mam hyfryd”

Mae mab a merch Elizabeth Mary Jordan, wedi talu teyrnged i’w “mam hyfryd”.

“Roedd ei theulu, ffrindiau, cydweithwyr, a phawb wnaeth gael y pleser o’i chwrdd, wir yn ei charu,” meddai datganiad y teulu.

“Rydym yn falch i allu galw hi’n fam, ffrind gorau a’r dylanwad mwyaf yn ein bywydau. Bydd hi’n byw yn ein calonnau am byth, a gwnawn yn siŵr bod ein hatgofion ohoni yn aros yn fyw trwy gydol ein bywydau.”

Apêl

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth am gar Peugeot 207, lliw du, gyda’r rhif cofrestru DN09 XRG.

Dylai unrhyw un wnaeth weld y car rhwng 6yb a 12.45yp ddydd Llun – yn ardal Trem y Garnedd o Faesgeirchen ac ardal Ffordd Siabod yn y Felinheli – gysylltu â’r heddlu.