Mae angen i gymdeithasau tai fod yn fwy “tryloyw” o ran eu buddsoddiadau, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dylai bod gan denantiaid fwy o bŵer i fedru craffu ar yr hyn mae eu cymdeithas tai yn gwneud drostyn nhw.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi darganfod bod nifer o sefydliadau yn buddsoddi tu allan i’w pwrpas craidd o ddarparu tai cymdeithasol.
Mae’n debyg bod nifer o’r sefydliadau yma yn buddsoddi mewn lletyau myfyrwyr, gwasanaethau cynnal a chadw annibynnol a chyfleoedd masnachol eraill.
Agored a thryloyw
“Yn gyffredinol mae llywodraethu a rheoleiddio yn y sector yn gweithio’n ddigon da i gymdeithasau tai gael mwy o ymreolaeth, ond yn gyfnewid credwn y dylent wneud mwy i fod yn agored ac yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay.
“Fodd bynnag, rydym yn pryderu ynghylch sut y mae rhai cymdeithasau tai yn arallgyfeirio i ffwrdd oddi wrth eu pwrpas craidd.”
Mae’r sector cymdeithasau tai yn darparu 158,000 o gartrefi ledled Cymru, gan ddarparu tai i thua 10% o’r boblogaeth.