Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £100,000 i gefnogi cwmni meddalwedd o Gaerdydd i ehangu ar lefel Ewropeaidd.

Drwy hyn, fe fydd y cwmni Innovantage Systems, yn creu deunaw o swyddi newydd wrth iddyn nhw arbenigo ym maes hysbysebion swyddi a recriwto.

Ar hyn o bryd, mae 13 o bobol yn cael eu cyflogi gan y cwmni yng Nghaerdydd sy’n eiddo i’r grŵp Symphony Technology.

Tueddiadau’r sector swyddi

Mae’r cwmni wedi datblygu meddalwedd sy’n casglu hysbysebion swyddi o fwy na 280 o hysbysfyrddau swyddi a 500,000 o wefannau i roi darlun am dueddiadau cyflogi’r farchnad swyddi.

Bwriad hyn yw cynnig cyngor i gwmnïau ddeall pwy yw eu cystadleuaeth a pha ardaloedd y dylent dargedu.

Fe fydd y swyddi newydd yn galw am brofiad ym maes datblygu meddalwedd, rheoli a gwerthu wrth iddyn nhw ehangu ym marchnad Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal.

Aros yng Nghymru

“Mae’r cyllid yma wedi galluogi Innovantage i barhau i dyfu ei waith o fewn y Deyrnas Unedig gyda chynnyrch blaenllaw.

“Mae hefyd wedi ein galluogi i sicrhau rhagor o adnoddau a chyflawni ein cynnyrch rhyngwladol a’n huchelgeisiau busnes,” meddai Richard Turner, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni.