Snapchat (Llun: barn images/ parth cyhoeddus)
Mae’r ap lluniau a negeseuon, Snapchat, wedi lansio cyfres o geofilters yn yr iaith Wyddeleg heddiw.

Mae delweddau’r geofilters yn cael eu cynnig i ddathlu mai Iwerddon yw’r wlad sy’n defnyddio Snapchat fwyaf ar sail canran y defnydd gan oedolion.

Mae’r lansiad yn rhan o ymgyrch gan y fforwm iaith Conradh na Gaeilge gafodd ei sefydlu yn 1893 i hybu’r defnydd o’r Wyddeleg, ac fe fydd modd defnyddio’r geofilters Gwyddeleg ymhob un o 32 o siroedd Iwerddon.

‘Ychwanegu at y rhestr’

“Fel y defnyddwyr mwyaf o Snapchat yn y byd, mae’n anhygoel i gael geofilters Gwyddeleg i’n defnyddwyr,” meddai Niall Comer, Llywydd mudiad Conradh na Gaeilge.

Ychwanegodd swyddog ymgyrchoedd y mudiad, Orlaith Nic Ghearilt – “mae mwy o ffyrdd nag erioed o’r blaen i bobol ddefnyddio’r iaith Wyddeleg ar gyfryngau cymdeithasol, ac rydym wrth ein bodd fod gan Snapchat geofilters Gwyddeleg.”

“Mae Facebook, Twitter a Gmail eisoes ar gael yn y Wyddeleg felly mae’n wych i ychwanegu Snapchat at restr y cwmnïau rhyngwladol sy’n defnyddio’r iaith,” meddai wedyn.

Snapchat

Mae ffigurau’r ap cymdeithasol, Snapchat, lle mae lluniau’n diflannu ar ôl 10 eiliad yn nodi fod 71% o’u defnyddwyr o dan 34 oed, a 45% rhwng 18 a 24 oed.

Mae mwy na 20,000 o luniau’n cael eu rhannu bob eiliad ledled y byd ar yr ap a mwy na 400 miliwn o ‘straeon Snapchat’ yn cael eu huwchlwytho bob dydd.

Mae geofilters yn ddarluniau mae pobol yn gallu eu dylunio eu hunain, ac mae modd gwneud hynny yn y Gymraeg, ac mae geofilters cyffredinol yr ap yn cyfeirio at leoliad neu ddiddordeb penodol.

Y Gymraeg?

Dywedodd Cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith, Carl Morris, y dylai “holl nodweddion Snapchat fod ar gael yn y Gymraeg.”

“Er bod ymdrech wedi bod i geisio darbwyllo darparwyr ar-lein i ddefnyddio’r Gymraeg, mae’n destun siom nad oes mwy yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y corfforaethau rhyngwladol hyn yn cynnig gwasanaethau Cymraeg,” meddai Carl Morris.

“Un fantais o estyn Mesur y Gymraeg i weddill y sector breifat, fel mae Gweinidog y Gymraeg yn dweud ei fod yn ffafrio, fyddai gwneud y Gymraeg yn fwy o bresenoldeb ar y we.”