Alun Cairns Llun: Gwefan Alun Cairns
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â Siapan yr wythnos hon (Awst 1 – 4) i drafod cysylltiadau busnes wedi Brexit.

Fe fydd Alun Cairns yn cwrdd ag uwch swyddogion cwmni Hitachi sy’n gyfrifol am y cwmni Pŵer Niwclear Horizon sydd am ddatblygu atomfa Wylfa Newydd, Ynys Môn.

Mae Swyddfa Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn ymweld â chwmnïau Panasonic, Sony a Toyota er mwyn “arddangos y potensial” a rhoi “sicrwydd” fod lle i ehangu yng Nghymru.

Mae eisoes wedi ymweld â chwmnïoedd o Siapan sydd â ffatrïoedd yng Nghymru gan gynnwys y cwmni technoleg modur yn y Drenewydd Nidec a Panasonic yng Nghaerdydd.

‘Potensial buddsoddiad’

“Mae fy ymweliad â Siapan yn dangos fod Llywodraeth y DU eisiau gweithio’n agos â busnesau o bob cwr o’r byd, i arddangos y potensial buddsoddiad anferthol sydd ar gael iddynt yma, ac i sicrhau’r rheiny sydd eisoes â phresenoldeb yma fod sicrwydd i ehangu a thyfu,” meddai Alun Cairns.

Dywedodd ei fod am “ymgysylltu â chwmnïau byd-eang wedi eu lleoli yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig gyfan.”

“Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, rydym eisiau parhau i fod yn bŵer dylanwadol ar lwyfan y byd, gan weithio â phartneriaid rhyngwladol i sicrhau diogelwch a ffyniant.”

Fe fydd hefyd yn ymweld ag aelodau Clwb Hiraeth gafodd ei sefydlu yn 1982 gan uwch swyddogion a weithiai yng Nghymru ond a ddychwelodd i Siapan.