Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i holi dyn, 54, mewn cysylltiad â marwolaeth dynes ym Mangor fore ddydd Llun (Gorffennaf 31).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Nhrem y Garnedd, Maesgeirchen, am 9.02 bore ddoe, lle daethpwyd o hyd i ddynes  leol, 53, mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn credu bod y dyn lleol wedi gadael yr eiddo yn gynharach yn y bore. Cafodd ei arestio ddoe yn y Felinheli ar amheuaeth o lofruddio’r ddynes ac mae’r heddlu wedi cael amser ychwanegol i’w holi.

Mae tîm o dditectifs, swyddogion arbenigol a thimau fforensig yn cynnal ymholiadau yn ardal Trem y Garnedd.

Nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Apêl

Mae’r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Trem y Garnedd rhwng 6yb a 9yb ddydd Llun.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth am gar Peugeot 207, lliw du, gyda’r rhif cofrestru DN09 XRG a allai fod wedi cael ei weld rhwng 6yb a 12.45pm ddydd Llun yn ardal Trem y Garnedd o Faesgeirchen ac ardal Ffordd Siabod yn y Felinheli.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod RC 1711 5243.