Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Bwrdd Iechyd yn ne Cymru, a oedd wedi cymryd mwy na thair blynedd i ymateb i gŵyn, wedi cael ei feirniadu mewn adroddiad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Bu farw dynes – sy’n cael ei galw’n Mrs D yn yr adroddiad – yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ddiwrnod ar ôl iddi gael ei chludo i’r ysbyty yn 2012.

Daeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r casgliad bod Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cymryd gormod o amser i ymchwilio i gŵyn ei mab.

Mae’r Ombwdsmon, Nick Bennett, hefyd wedi beirniadu’r Bwrdd Iechyd am ei “ddiffyg tryloywder” yn eu hymateb ac o “gamarwain.”

Mrs D

Yn ôl yr adroddiad roedd Mrs D yn “ddifrifol wael” pan gafodd ei chludo i’r ysbyty ar 9 Tachwedd 2012, ac er iddi dderbyn triniaeth feddygol gwaethygodd ei chyflwr erbyn y diwrnod canlynol.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd ei fod wedi torri ei ddyletswydd gofal ac roedd y corff wedi rhoi addewid y byddai’n ymchwilio i’r mater ymhellach ond ni chlywodd mab Mrs D gan y bwrdd am bron i ddwy flynedd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd yn 2015 pan ddaeth i’r amlwg bod mab Mrs D o hyd heb glywed yn ôl gan y Bwrdd Iechyd. Dechreuodd yr ymchwiliad yn 2016.

Mae’r Ombwdsmon wedi gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai’r Bwrdd Iechyd dalu £2,000 i fab Mrs D.

“Diffyg tryloywder”

“Ar ei orau, roedd hwn yn achos o ddiffyg tryloywder ac ar ei waethaf, yn ymgais gan y Bwrdd Iechyd i gamarwain a rhoi ffydd cleifion yn y broses ‘Gweithio i Wella’ yn y fantol,” meddai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,  Nick Bennett.

“Mae’r enghraifft hon o ddelio’n wael â chwynion yn debyg iawn i’r hyn rydw i’n ei drafod yn fy adroddiad thematig diwethaf Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Feunyddiol: Dysgu Gwersi o Ddelio’n Wael â Chwynion. Mae angen i ni symud y tu hwnt i’r diwylliant ofni a beio yma, a defnyddio’r gwersi rydyn ni’n eu dysgu o gwynion i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

“Er na allaf newid y canlyniad trist i Mrs D, gobeithio y bydd y Bwrdd Iechyd yn dysgu o’r profiad hwn ac yn sicrhau ei fod yn delio â chwynion yn brydlon ac mewn modd trugarog yn y dyfodol.”

Ymddiheuriad

“Rydym yn derbyn canfyddiadau’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn ymddiheuro unwaith eto i’r teulu am y methiannau a gafodd eu hamlygu yn yr adroddiad,” meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Allison Williams.

“Rydym wedi cymryd sawl cam i wella a chryfhau ein proses a gwasanaethau cwynion, ac mi fydd gwaith pellach yn parhau er mwyn mynd i’r afael ag argymhellion yr adroddiad.”