Teulu Fron Felen. Bob, Elen, Gethin a Nan gyda chyflwynydd Cefn Gwlad, Dai Jones
Mae’n hen bryd i drefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd wneud mwy i wella diogelwch un o brif wyliau Cymru.

Yn ôl Elen Gwen Williams o Henllan yn Sir Ddinbych mae’n rhaid gwneud rhywbeth “i atal pedwerydd trychineb.”

Daw sylwadau’r ferch 20 oed sy’n ffermio fferm Fron Felen gyda’i rhieni, Bob a Nan, a’i brawd Gethin, ddiwrnod wedi i Heddlu Dyfed Powys gadarnhau mai corff James Corfield gafodd ei ddarganfod yn afon Gwy wedi iddo ddiflannu yn ystod y Sioe Fawr yr wythnos diwethaf.

Mae’r newyddion, meddai, yn “agor hen greithiau” wedi iddi golli ei brawd Elgan Williams dros ddegawd yn ôl mewn damwain car yn y Sioe Fawr yn 2004.

Dywedodd y byddai wedi dathlu’i ben-blwydd yn 30 heddiw (Awst 1) ac – “rydan ni’n trio cario ymlaen fel teulu, ond wedyn mae hyn yn digwydd eto… ac rydan ni’n mynd yn ôl i’r un sefyllfa ac yn meddwl gymaint am deulu James.”

Rhwng y sioe a’r dref

Esboniodd Elen Williams fod goleuadau a chyfyngiadau cyflymder wedi’u cyflwyno i ardal y sioe ar ôl iddi golli ei brawd yn 2004.

“Ond mae’n teimlo fel bod rhywbeth yn gorfod digwydd iddyn nhw ddeall bod rhywbeth angen cael ei wneud,” meddai wrth golwg360.

Dywedodd y fyfyrwraig ym mhrifysgol Harper Adams ei bod yn pryderu am safon y diogelwch rhwng maes y sioe a thref Llanfair-ym-muallt lle mae llawer o bobol yn cerdded yn ôl ac ymlaen gyda’r hwyr.

“Does yna ddim lot o ddiogelwch, mae bach o ffensys… ond ar hyd y ffordd, does yna ddim byd yn stopio rhywbeth rhag digwydd.”

“Mae pawb yn cerdded ar hyd y bont, dydy’r ochr ddim yn ddigon uchel, un pwsh ac wyt ti drosodd,” meddai gan ychwanegu fod angen mwy o gamerâu cylch cyfyng o gwmpas y lle.

“Chwe diwrnod ydy o [hyd y Sioe gan gynnwys y penwythnos cyntaf], dw i’n siŵr eu bod nhw’n gallu tynnu rhywbeth allan o’r bag i’n cadw ni’n saff am y chwe diwrnod yna,” meddai wedyn.

‘Hen bryd’

Mewn neges sydd wedi denu ymateb gan fwy na 500 o bobol ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Elen Williams yn dweud bod angen i “fesurau diogelwch gael eu rhoi mewn lle i gadw ni’n saff tra rydan ni yno, i atal rhywbeth fel yma ddigwydd am y pedwerydd tro.”

Un arall yr oedd Elen Williams yn ei adnabod yn dda oedd Gareth Jones o ardal Abergele, ffrind gorau Elgan Williams, ac fe gollodd yntau ei fywyd yn afon Gwy adeg y sioe yn 2006.

 

Adolygiad ar y cyd

Mewn ymateb i sylwadau Elen Williams, mae llefarydd ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 y byddan nhw’n cynnal adolygiad.

“Yn dilyn y golled hynod drist o James Corfield, byddwn yn cydlynu adolygiad yn cynnwys CFfI Cymru, Cyngor Tref Llanfair-ym-muallt, Cyngor Sir Powys, Heddlu Dyfed Powys a’r holl wasanaethau brys a rhanddeiliaid eraill i sefydlu pa wersi all gael eu dysgu a gwelliannau i ddigwyddiadau’r dyfodol.”