James Corfield (Llun: Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai corff James Corfield gafodd ei ddarganfod yn afon Gwy ddydd Sul, Gorffennaf 30.

Cafodd y bachgen, 19 oed o Drefaldwyn, ei weld diwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair ym Muallt ychydig wedi hanner nos, nos Lun Gorffennaf 24 yn ystod wythnos y Sioe Fawr.

Mewn datganiad drwy law’r heddlu mae teulu’r llanc wedi talu teyrnged i’r ffermwr ifanc a’r chwaraewr criced talentog.

“Roedd James yn fachgen fferm a theulu – ffermio oedd ei fywyd, ac roedd yn caru ei anifeiliaid gydag angerdd.

“Roedd ymweliad â’r Sioe Frenhinol yn uchafbwynt mawr iddo – ac roedd gweld y defaid a’r beirniadu dofednod yn rhywbeth yr oedd yn edrych ymlaen ato.

“Byddai’n mynd i’r Sioe Frenhinol bob blwyddyn drwy gydol ei fywyd, ac mae gennym atgofion hoffus o fynd ag ef yno fel plentyn, a byddwn yn eu trysori am byth.”

‘Cricedwr brwd’

Mae’r teulu’n ymhelaethu ar ei ddoniau fel “cricedwr brwd ac yn chwaraewr talentog” gan gyfeirio at ei lwyddiannau fel Chwaraewr Criced y flwyddyn Sir Amwythig Grŵp 2, a chwaraewr ifanc y flwyddyn y gynghrair yn 2016.

Roedd yn chwarae i Glwb Criced Trefaldwyn sydd wedi talu teyrnged iddo fel “aelod blaenllaw, nid yn unig oherwydd ei allu. Roedd yn gyfeillgar, yn barod i helpu ac yn ddyn ifanc oedd yn gweithio’n galed.”

Mae’r teulu wedi diolch am gefnogaeth gwirfoddolwyr dros gyfnod y chwilio a’r negeseuon o gefnogaeth, ond yn dweud eu bod yn dymuno preifatrwydd yn awr.

Cydymdeimlad dwysaf

Ychwanegodd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru mewn datganiad – “gyda gofid y daeth y newyddion fod y corff a ddarganfuwyd ddoe wedi ei gadarnhau fel un James Corfield.

“Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w deulu a’i ffrindiau ar yr amser anodd hwn,” gan ychwanegu eu diolch i’r gwasanaethau argyfwng, gwirfoddolwyr a chymdeithas y sioe wrth gynorthwyo gyda’r chwilio.