Tommo yn Llangrannog eleni (Llun: Marian Delyth)
Mae prif gyflwynydd rhaglenni prynhawn Radio Cymru wedi ymddiheuro am sylwadau a oedd, meddai, wedi “achosi dolur a gofid”.

Wrth ddechrau ei raglen ar ôl gwaharddiad o fwy na phythefnos gan y BBC, fe ddywedodd ei fod wedi defnyddio “iaith oedd ddim yn addas nac yn dderbyniol” wrth gyflwyno o lwyfan gŵyl Nol a Mla’n yn Llangrannog.

Ond mae Golwg360 yn deall mai cynnwys ei sylwadau oedd wedi arwain at gwyn yn ei erbyn, nid yr iaith.

Beth ddywedodd Tommo yn Llangrannog

Mae mwy nag un ffynhonnell wedi cadarnhau bod sylwadau Tommo’n ymwneud â threisio – roedd wedi cyfeirio’n joclyd at gael ei “repo” gan fenywod yn y gynulleidfa ac awgrymu bod hynny’n beth da.

Yr union eiriau oedd: “Does dim byd gwell na gwd repad yn Llangrannog ar nos Sadwrn.”

Mae pobol eraill wedi cwyno ar wefannau cymdeithasol ei fod wedi gwneud sylwadau homoffobaidd hefyd.

Mae’r BBC wedi gwrthod cadarnhau beth yn union oedd y gwyn.

Beth ddywedodd Tommo heddiw

Wrth ddechrau ei raglen am 2 o’r gloch heddiw, dywedodd Andrew ‘Tommo’ Thomas:

“Cyn dechrau licsen i ymddiheuro… rhai wythnosau’n ôl fues i’n cyflwyno ar llwyfan Gŵyl Nôl a ‘Mlan wrth gwrs yn Llangrannog, pan o’n i ar y llwyfan fe wnes i ddefnyddio iaith oedd ddim yn addas nac yn dderbyniol.

“Roedd beth wedes i yn ddwl iawn a fi’n gwybod fod e wedi achosi dolur a gofid i rai ohonoch chi yn y gynulleidfa. I unrhyw un oedd wedi teimlo fel yna ma’n ddrwg ofnadwy ’da fi, a dw i’n ymddiheuro o waelod calon.”

Gwaharddiad

Cafodd Tommo ei wahardd o’r orsaf yn wreiddiol fwy na phythefnos yn ôl am y sylwadau ond fe gyhoeddodd BBC Cymru yr wythnos diwethaf y byddai Tommo yn dychwelyd i gyflwyno’i raglen heddiw yn dilyn ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru bryd hynny: “Yn dilyn ymchwiliad mewnol, mae Tommo wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a ’Mlân i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra’n cyflwyno.

“Mae’r BBC yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad.”