Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi cymeradwyo cynllun dadleuol a allai adeiladu mwy na 7,000 o dai ar yr ynys ac yng Ngwynedd dros y 15 mlynedd nesaf.

Yng nghyfarfod y cabinet y bore yma (Gorffennaf 31) fe bleidleisiodd 21 o blaid y cynllun, 5 yn ei erbyn ac 1 yn atal eu pleidlais.

Mae’r cynllun datblygu lleol yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Môn â Chyngor Gwynedd, gyda Gwynedd yn cymeradwyo’r cynllun o drwch blewyn yr wythnos diwethaf wedi i’r Cadeirydd daro pleidlais yn dilyn canlyniad cyfartal gan y cynghorwyr.

‘Hanfodol’

Wrth groesawu’r penderfyniad dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi: “credaf yn gryf y bydd y cynllun datblygu lleol ar y cyd newydd yn darparu fframwaith gadarn i Ynys Môn ar gyfer polisi cynllunio a defnydd tir i’r dyfodol.”

“Mae ein hynys yn wynebu nifer o heriau mawr o ran cynllunio dros y ddegawd nesaf, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu prosiectau seilwaith mawr fel Wylfa Newydd.

“Mae’n rhaid inni fod yn barod am newidiadau sylweddol yn yr economi leol ac mae darparu tir i greu swyddi newydd a thai fforddiadwy ar gyfer ein pobol ifanc, yn y llefydd iawn, yn hanfodol,” meddai.

“Bydd hyn yn helpu cyflawni ein nod o greu cymunedau lleol cryf a chynaliadwy ac yn helpu i amddiffyn yr iaith Gymraeg,” ychwanegodd Llinos Medi.

‘Protest’

Mae’r cynllun yn codi pryderon am ei effaith ar yr iaith Gymraeg gyda Chymdeithas yr Iaith wedi galw am ailystyried y polisi.

Mae’r mudiad iaith wedi rhybuddio bydd “protestio yn erbyn y tai diangen hyn fesul datblygiad” yn dilyn y penderfyniad heddiw.

Bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Osian Owen a Ieu Wyn o’r mudiad Cylch yr Iaith yn annerch gwrthdystiad ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn, meddai Cymdeithas yr Iaith.

Wrth ymateb i’r newyddion, meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r canlyniad heddiw yn siomedig gan y bu cyfle gan gynghorwyr i anfon neges glir i’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd eu bod am gael cynllun sy’n adlewyrchu gwir anghenion lleol. Bydd rhaid i ni wrthwynebu a phrotestio yn erbyn y tai diangen hyn fesul datblygiad nawr.

“Bydd y protestio’n dechrau yn yr Eisteddfod pan fyddwn ni’n tynnu sylw at yr angen i wrthod y 366 o dai ym Mhen-y-Ffridd ym Mangor.  Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, byddai’r cynllun hwn yn cryfhau’r achos yn erbyn y datblygiad yna. Felly, dyna fydd y prawf cyntaf iddo fe a’i gynllun.”

“Angen gweddnewid y system gynllunio”

Ychwanegodd Menna Machreth:  “Yn sicr, dylai’r broses hon ein hatgoffa bod angen gweddnewid y system eiddo a chynllunio fel ei bod yn llesol i’r iaith, a hynny yng Nghymru gyfan.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o’r wlad, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y Llywodraeth, yn eu polisïau, yn sicrhau bod y system yn hybu’r iaith ym mhob un rhan o’r wlad. Allwn ni ddim parhau â system sy’n gadael prisiau tai ymhell tu hwnt i allu pobl leol i’w fforddio, ac wedyn, ar ben hynny, yn gorfodi cynghorau sir i adeiladu fwyfwy o’r tai hynny.”