Mae beiciwr modur wedi’i gludo i Ysbyty Glan Clwyd y bore yma ag “anafiadau difrifol” yn dilyn gwrthdrawiad ger Prestatyn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng fan â beic modur ar ffordd Marine ddydd Llun (Gorffennaf 31).

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r safle tua 8.50yb, ac mae’r ffordd yn parhau ynghau gyda’r traffig yn cael eu dargyfeirio.

Mae’r heddlu’n galw ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu ag Uned Plismona Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod V115241.