Llew Jones (Llun: Undeb Amaethwyr Cymru)
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi talu teyrnged i un o’u haelodau gwreiddiol diwethaf, sef Llew Jones, 92 oed, o sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, mae marwolaeth y gŵr a ffermiai fferm deuluol Clunmawr ger Rhandirmwyn, Llanymddyfri yn “nodi diwedd cyfnod i UAC.”

Esboniodd fod Llew Jones yn un o’r rhai wnaeth sefydlu’r undeb yn 1955, ac nad oes yr un aelod gwreiddiol ar ôl bellach.

‘Angerdd mawr’

Ychwanegodd Glyn Roberts bod Llew Jones yn “parhau i gymryd diddordeb mawr yn UAC tan ei ddyddiau olaf.”

“Roedd yn fraint enfawr i mi nabod a gweithio gyda Llew. Roedd ganddo angerdd mawr ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a’r ffordd wledig o fyw, yn enwedig yr iaith Gymraeg,” meddai.

“Roedd Llew yn meddwl y byd o UAC a’r hyn y mae’n ei gynrychioli, ac mi fyddaf i, a phawb y cafodd y fraint o’i adnabod, yn gweld eisiau ei gyngor doeth,” ychwanegodd.

Bu Llew Jones yn gyn-Gadeirydd a Llywydd Pwyllgor Gwaith UAC Sir Gaerfyrddin, cyn-Lywydd CFfI Caerfyrddin ynghyd â chyn-Gadeirydd a Llywydd Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig.