James Corfield
Mae Clwb Criced Trefaldwyn wedi talu teyrnged i “aelod blaenllaw” aeth ar goll yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd wythnos ddiwethaf.

Fe gadarhanodd Heddlu Dyfed Powys ddydd Sul eu bod wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am James Corfield, 19, yn Llanelwedd.

Aeth y ffermwr o Drefaldwyn ar goll yn ystod ymweliad â’r sioe ddydd Llun diwethaf, a chafodd ei weld diwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair-ym-Muallt tua hanner nos.

Roedd wedi trefnu i gyfarfod ei deulu’r diwrnod wedyn a chafodd yr heddlu eu hysbysu yn fuan wedi 2yp ei fod ar goll.

“Aelod blaenllaw”

“Roedd James yn aelod blaenllaw o’r clwb, nid yn unig oherwydd ei allu. Roedd yn gyfeillgar, yn barod i helpu ac yn ddyn ifanc oedd yn gweithio’n galed,” meddai datganiad ar dudalen Facebook Clwb Criced Trefaldwyn. 

“Gwnaeth e gyfrannu llawer i deulu criced [Parc Criced] Lymore. Mae’r newyddion bod corff wedi cael ei ddarganfod wedi cael effaith mawr ar y clwb, y dref a chymunedau criced a ffermio Sir Drefaldwyn a Sir Amwythig.”