Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae’r Twrnai Cyffredinol, Jeremy Wright wedi datgelu bod y barnwr mewn 11 o achosion yng Nghymru wedi bod yn rhy drugarog wrth ddedfrydu troseddwyr y llynedd.

Ymhlith y rhai y mae e wedi cyfeirio atyn nhw mae Sean Buckley, a gafwyd yn euog o lofruddio plentyn ei bartner, Finley Thomas, oedd yn 17 mis oed.

Cafodd ei ddedfrydu i oes o garchar, a’r barnwr yn dweud bod rhaid iddo dreulio o leiaf 17 o flynyddoedd dan glo, ond cafodd hynny ei ymestyn i 20 mlynedd yn ddiweddarach.

Cafodd dedfryd mam y plentyn, Chloe Thomas ei chynyddu o 20 mis o garchar i 30 mis dan glo.

Cafodd 14 o achosion eu trosglwyddo o Gaerdydd, Merthyr Tudful a’r Wyddgrug i’r Llys Apêl y llynedd am fod y ddedfryd yn rhy drugarog. Cafodd 11 ohonyn nhw eu hymestyn – a dau ohonyn nhw’n cael eu hymestyn o orchymyn cymunedol i gyfnod o garchar. Roedd un o’r achosion yn ymwneud â throseddau rhyw.

‘Ddim yn wyddoniaeth union gywir’

Dywedodd y Twrnai Cyffredinol, Jeremy Wright QC fod cynllun mewn grym i alluogi herio dedfryd sy’n cael ei hystyried yn rhy drugarog.

“Dydy dedfrydu ddim yn wyddoniaeth union gywir ac yn y rhan fwyaf o achosion, mae barnwyr yn ei chael hi’n iawn.

“Mae’r cynllun ar gael er mwyn sicrhau fy mod i a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn gallu cynnal adolygiad annibynnol o’r achosion hynny lle gall fod gwall wedi digwydd wrth ddedfrydu.”

O fis Awst, bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o droseddau brawychol.