Molly a Brian Owens (Llun: PA)
Mae’r chwilio’n parhau am y ferch fach bump oed, Molly Owens o Gaergybi.

Mae lle i gredu ei bod hi gyda’i thad, Brian Owens sydd wedi ffoi yn hytrach nag ymddangos mewn llys, a’u bod nhw wedi mynd i Iwerddon.

Roedd disgwyl i Brian Owens fynd gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddydd Gwener i gael ei ddedfrydu, ond dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau pam.

Mae gan Molly wallt golau hyd at ei choler, a llygaid glas. Mae hi’n gwisgo sbectol pinc weithiau.

Mae Brian Owens yn 5’9″ ac o gorffolaeth denau, a chanddo wallt brown byr a llygaid glas.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi apelio am wybodaeth.