Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar gynghorwyr Gwynedd i “fod yn ddewr” a gwrthwynebu cynllun i ganiatau codi hyd at 8,000 o dai newydd.

Mi fydd cynghorwyr y sir yn pleidleisio brynhawn heddiw (dydd Gwener, Gorfdennaf 28) ar fater y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng Gwynedd a Môn, cyn y bydd aelodau etholedig dros y Fenai yn gwneud yr un peth ddydd Llun.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, byddai’r cynllun yn “gwneud niwed i’r Gymraeg”, ac maen nhw’n erfyn ar gynghorwyr ” i roi ystyriaeth i’r Gymraeg cyn unrhyw blaid”

Mae’r mudiad iaith eisoes wedi tynnu sylw at asesiad effaith iaith annibynnol sydd yn awgrymu bydd cwymp 2% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg pe bai’r cynllun yn mynd yn ei flaen.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal protest yn erbyn y cynllun tu allan i swyddfeydd y cyngor am 1.15yp heddiw.

“Neges i’r Llywodraeth”

“Apeliwn at y cynghorwyr i fod yn ddewr, ac i roi’r Gymraeg cyn unrhyw blaid,” meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae cyfle i gynghorwyr o bob un blaid sefyll i fyny a dangos nad ydyn nhw’n mynd i fod yn daeog i’w meistri yng Nghaerdydd.

“Gallan nhw fod yn wahanol, a gwneud gwir wahaniaeth i’r iaith yn lleol. Byddai’n well cael rhai misoedd heb gynllun na 15 mlynedd gyda sicrwydd o niwed i’r Gymraeg.

“Mae nifer yn cwestiynu pam fod swyddogion Cyngor Gwynedd yn dawnsio i diwn Llywodraeth Llafur Cymru o ran adeiladu cymaint o dai diangen.

“Mae’n bryd i gynghorwyr anfon neges i’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd bod y Gymraeg a chymunedau lleol yn bwysicach nag adeiladu mwy o dai i lenwi coffrau datblygwyr mawrion,” meddai wedyn.