Mae angen “ewyllys wleidyddol gryfach” i fynd i’r afael â’r problemau sy’n wynebu’r gwasanaethau bysiau yng Nghymru, yn ôl adroddiad un o bwyllgorau’r cynulliad.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at “gylch ddieflig” lle mae tagfeydd traffig yn gwneud bysiau yn hwyr a’n llai dibynadwy, sydd yn ei dro yn arwain at fwy o geir ar y ffyrdd a mwy o dagfeydd traffig.

Yn ôl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, os caiff y gwasanaeth ei flaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru, gall arwain at lai o dagfeydd a llai o lygredd aer.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael ag effaith tagfeydd traffig ar wasanaethau bysiau yng Nghymru.

“Anhepgor”

“Mae’r bws yn aml yn cael ei anwybyddu pan fyddwn yn sôn am ein rhwydwaith trafnidiaeth,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George AC.

“Eto i gyd, mae’r bws yn cludo mwy o deithwyr nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n offeryn anhepgor ar gyfer gweithwyr, dysgwyr, siopwyr a theithwyr hamdden yn eu bywydau bob dydd.

“Wrth wraidd y mater hwn mae’r angen am ewyllys wleidyddol gryfach. Yn gyffredinol, mae’r pwerau, y liferi, a’r ddeddfwriaeth yn eu lle.

“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.