James Corfield (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae mam ffermwr ifanc sydd wedi diflannu o ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon, wedi apelio ar i’w mab ddod adref.

Er i Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio hofrenyddion i chwilio am y ffermwr 19 oed o Drefaldwyn, a welwyd ddiwethaf yn nhafarn y White Horse yn Llanfair-ym-Muallt, dydyn nhw ddim wedi llwyddo i ddod o hyd iddo.

“Rydan ni, ei rieni, ei frawd a’i chwaer a’i nain, yn despret i wybod lle mae James,” meddai Lousie Corfield.

“Mae hyn yhn hollol groes i’w gymeriad. Mae ganddo fo gymaint o angerdd dros ei anifeiliaid fferm, a dydi o ddim wedi bod adref i edrych ar eu holau nhw… Fasa fo byth yn eu gadael nhw, ac mae hynny’n ein gwneud ni’n fwy pryderus yn ei gylch.

“Mae James yn chwaraewr criced dawnus,” meddai ei fam wedyn, “ac mae disgwyl iddo fo droi allan ddydd Sadwrn yma dros ei dîm, Clwb Criced Trefaldwyn. Rydan ni ei angen o adref!

“Rydan ni’n ddiolchgar i bawb o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn helpu i chwilio amdano fo, ond rydan ni’n methu dod o hyd iddo fo o hyd. Lle mae o?

“Rydan ni’n dy garu di, James.”