Raymond Hodges (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae pensiynwr o’r Barri wedi cael ei garcharu am 25 blynedd am gyfres o ymosodiadau rhywiol ar ferch dros gyfnod o ddegawd.

Cafodd ei farnu’n euog o sawl cyhuddiad ar Fehefin 30, gan gynnwys 24 cyhuddiad o dreisio, gweithred rywiol â phlentyn dan 13,ac ymosodiad anweddus.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y dyn 71 oed wedi dechrau cam-drin y ferch pan oedd hi ond yn bum blwydd oed, a threisiodd hi am y tro cyntaf pan oedd yn wyth blwydd oed.

Cafwyd yn euog o ddefnyddio dyfais – cambren cot – i achosi erthyliad, a derbyniodd ddedfryd gydredol 15 blynedd o hyd am y drosedd yma.

Gwadodd Raymond Hodges pob cyhuddiad yn ei erbyn.

“Dan glo am yn hir”

“Dw i’n falch ein bod wedi gweithredu cyfiawnder yn sgil troseddau erchyll Raymond Hodges, a’i fod bellach dan glo lle mae’n haeddu bod a lle bydd yn aros am gyfnod hir iawn,” meddai’r Ditectif Gwnstabl, Steve Gunney, wnaeth arwain yr ymchwiliad.

“Roedd hyn ond yn bosib oherwydd dewrder y ddynes ifanc cafodd ei heffeithio. Roedd hi’n hynod o ddewr i allu adrodd y gamdriniaeth, ac mi roedd hi’n ddewr trwy gydol yr ymchwiliad.”