Mae tua 150 o bobol yn wynebu colli eu swyddi mewn ffatri bacio yng Nghasnewydd.

Mae’r cwmni, Essentra, wedi cadarnhau ar ei wefan ei fod yn ymgynghori ar gau’r gangen yn ne-ddwyrain Cymru.

Pe bai cynlluniau’r cwmni i gau’r safle pacio pacedi yn parhau, bydd y ffatri yn cau erbyn diwedd y flwyddyn hon.

Arian cyhoeddus

Mae’r Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr dros Dde Ddwyrain Cymru, Mohammad Ashgar, yn dweud bod Essentra wedi cael “buddsoddiad sylweddol” gan Lywodraeth Cymru a bod angen codi “cwestiynau difrifol” â gweinidogion.

“Mae hyn yn newyddion siomedig a bydd wrth gwrs yn achosi llawer o bryder ymhlith gweithwyr sydd wedi’u heffeithio a’u teuluoedd,” meddai.

“Mae wastad yn anodd ofnadwy i’r sawl sy’n cael eu heffeithio gyda’r posibilrwydd o golli swydd, ac mae hwn yn anffodus yn ergyd arall i’r ardal yn dilyn colledion tebyg, gyda chynlluniau i ddod â masnachu i ben ar y safle erbyn diwedd y flwyddyn.

“Mae safle pacio Essentra wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Lafur Cymru – a bydd angen i Weinidogion ateb cwestiynau difrifol.

“Yn y cyfamser, rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy yn syth ac ystyried pa becynnau cymorth gallan nhw gynnig i weithwyr sydd wedi’u diswyddo, yn nhermau ail-hyfforddi a chymorth wrth sicrhau gwaith newydd.”

Llywodraeth Cymru – “gweithio gydag Essentra”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Rydym yn siomedig iawn bod Essentra plc wedi dechrau cyfnod ymgynghori ar y cynnig i ddod â chynhyrchu i ben yng Nghasnewydd.

“Bydd hyn yn gyfnod pryderus i weithwyr a’u teuluoedd a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cwmni ac eraill i sicrhau bod gweithwyr yn cael cefnogaeth lawn drwy’r cyfnod anodd hwn.”