Dei Tomos (Llun: Hedydd Ioan)
Mae un o leisiau mwyaf cyfarwydd darlledu Cymraeg wedi derbyn gwobr am ei waith newyddiadurol ym maes ffermio.

Dei Tomos ydi enillydd Gwobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Fawr eleni, a hynny am ei bodlediad ar-lein.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Farmers Weekly Cymru a fu farw ym mis Tachwedd 2009, yn cael ei chynnig i’r unigolyn sydd wedi hyrwyddo proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Dei Tomos yw llais newyddion amaeth Radio Cymru bob bore (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae hefyd yn cyhoeddi podlediad ‘Bwletin Amaeth’ ar y we, gan gyflwyno’r newyddion a’r materion amaethyddol diweddaraf i’r rhai hynny sy’n gweithio o fewn y diwydiant ac i ystod eang o wrandawyr.

“Mae podlediadau wedi gwella darlledu clywedol, yn apelio at y gwrandawyr anhraddodiadol a’r gwrandawyr iau ac yn cysylltu gyda chynulleidfaoedd mewn ffordd nid oes modd i gyfryngau arall wneud,” meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts, wrth gyflwyno’r wobr i Dei Tomos.