Fe fydd gweinidogion llywodraethau Cymru a’r Alban yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau) i drafod yr angen i newid y ‘Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd’.

Mae disgwyl y bydd gweinidogion yn trafod sut i ddiwygio’r Bil – mesur yn ôl rhai, all arwain at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cipio pwerau oddi wrth y cenhedloedd datganoledig yn sgil Brexit.

Bydd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford a Gweinidog Brexit yr Alban, Michael Russell yn cyfarfod i drafod y mesur cafodd ei gyhoeddi gan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod fe fydd Arglwydd Adfocad Llywodraeth yr Alban, James Wolffe a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw.

Dim parch

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o’r cychwyn ein bod yn cytuno bod angen ymadael â’r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd drefnus, ond bod angen i hynny fod ar sail cyfres o drefniadau sy’n rhoi sicrwydd i fusnesau ac i’n cymunedau, ac sy’n parchu’r setliad datganoli,” meddai  Mark Drakeford.

“Dyw’r Bil i Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ddim yn gwneud hynny o gwbwl ar ei ffurf bresennol.

“All Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim disgwyl cefnogaeth y gweinyddiaethau datganoledig ar y sail honno. Rydyn ni am helpu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i ffordd allan o’r llanast yma.”