Ken Skates AC
Bydd Llywodraeth Cymru yn “ail edrych” ar gynlluniau i godi cerflun dadleuol ger Castell y Fflint.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener eu bod yn bwriadu buddsoddi  £395,000 mewn cerflun ‘Cylch Haearn’ ger y castell.

Mae enw’r cerflun yn cyfeirio at gyfres o gestyll cafodd eu hadeiladu gan y brenin, Edward y Cyntaf, i ormesu’r Cymry – Castell y Fflint oedd y cyntaf o’r cestyll yma.

“Ail-edrych ar y cynlluniau”

Mewn datganiad mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod fod teimladau “cryf” gan bobol tuag at y cerflun ac yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn “oedi” am ychydig.

“Rydym wedi gwrando, ac yn cydnabod pa mor gryf yw teimladau pobl ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell Y Fflint,” meddai Ken Skates.

“Rydym yn teimlo ei fod yn iawn inni oedi bellach, ac ail-edrych ar y cynlluniau ar gyfer y cerflun.  Gan gydweithio’n agos â phartneriaid lleol, byddwn yn parhau i weithio ar gynlluniau ar gyfer datblygiadau yn Fflint, gan gynnwys edrych eto ar y cyfleusterau i ymwelwyr.”

Ymateb Chwyrn

Daw’r datganiad yn sgil ymateb chwyrn gan y cyhoedd ac wedi i’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd, ddanfon llythyr i Ken Skates yn galw arno i ddileu’r cynllun .

Cafodd deiseb ‘Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint’ ei sefydlu ar Orffennaf 23, a hyd yma mae dros 9,000 wedi ei harwyddo.