Meri Huws (canol) yn y Sioe Fawr
Mae angen “ymgyrch genedlaethol” i gefnogi addysg a chyrsiau galwedigaethol ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyna sylwadau Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru mewn trafodaeth ar faes y Sioe Fawr ar sut y gall addysg greu cyfleoedd i bobol ifanc gael gwaith yng nghefn gwlad.

Ac yn ôl Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, mae angen i’r sector addysg uwch a phellach “gydweithio” i gynnig cyrsiau a chyfleoedd.

“Mae cefn gwlad yn edrych yn gymharol iach o ran y Gymraeg ond allwn ni ddim eistedd yn ôl a disgwyl i hynny barhau,” meddai Meri Huws wrth golwg360.

Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd gan y sector amaeth, egni a dŵr y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob sector yng Nghymru, sef 29.5%.

Cydweithio

Dywedodd Meri Huws ei bod am weld “strategaeth gynllunio” rhwng y colegau addysg bellach a’r prifysgolion i greu cyfleoedd gwaith mewn ardaloedd gwledig.

“Mae heddiw yn eithriadol o bwysig achos mae’r colegau addysg bellach a’r prifysgolion yn eistedd gyda’i gilydd ar faes y Sioe i adnabod y cyfle, yr her a’r potensial i greu cyfleoedd,” meddai.

Yn rhan o’r drafodaeth hefyd oedd Ioan Matthews Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ynghyd â Huw Davies, darlithydd amaeth yng ngholeg Gelli Aur, Sir Gâr.

Hyrwyddo sgiliau’r Gymraeg’

Yn ôl Huw Davies o goleg amaethyddol Gelli Aur yr her yw “gweddnewid yr agwedd” at y Gymraeg.

Dywedodd fod nifer o fyfyrwyr sy’n dod ar gyrsiau addysg bellach gyda’r coleg ddim yn adnabod y cyfleoedd mae’r Gymraeg yn gynnig o ran swyddi – “ac mae angen mynd i’r afael â hynny yn gyntaf a hyrwyddo’r sgiliau mae dwyieithrwydd yn ei gynnig o fewn y diwydiant.”