Mae’r nifer o bobol yng Nghymru sydd wedi colli eu golwg o ganlyniad i glefyd y siwgwr, wedi haneru, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl ymchwil cafodd ei gyhoeddi yn y British Medical Journal, roedd y nifer sy’n ddall neu sydd wedi colli eu golwg yn 2014/15, 49% yn llai nag yr oedd yn 2007/08.

Cafodd yr ymchwil ei gynnal gan grŵp o Brifysgol Abertawe oedd yn dadansoddi niferoedd pobol yng Nghymru oedd wedi derbyn statws ‘colli golwg oherwydd diabetes‘.

Ystadegau

Yn 2014/15 o gymharu â 2007/08 roedd:

  • 339 yn llai o bobol wedi derbyn statws ’nam ar eu golwg’;
  • 22 yn llai o bobol sy’n ymwybodol o’u clefyd siwgwr golli eu golwg;
  • 49% yn llai o bobol dderbyn statws ‘colli golwg oherwydd diabetes’;
  • y nifer o bobol yng Nghymru â diabetes wedi cynyddu o 52,229.

“Ymyrryd yn gynnar”

Cafodd rhaglen sgrinio retinopathi diabetig genedlaethol ei chyflwyno yn 2003, a hyn sydd i ddiolch am yr ymyrraeth gynnar sydd wedi achosi’r cwymp, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

“Diolch i’n rhaglen sgrinio retinopathi diabetig genedlaethol, rydyn ni bellach yn gallu ymyrryd yn gynnar er mwyn atal pobol sydd â diabetes rhag colli eu golwg,” meddai Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.

“Hoffwn dalu teyrnged i bawb yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd wedi gweithio mor galed i wneud hyn yn bosibl. Dyma enghraifft wych arall o wasanaeth iechyd Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobol.”