Y mae pob un o swyddogion Gorsedd y Beirdd yn gymwys i deithio am ddim ar fws yng Nghymru – pawb, ond Ceidwad y Cledd.

Wrth i aelodau dderbyn llythyr yr wythnos hon yn eu hysbysu o’r cyfarfod cyffredinol blynyddol sydd i’w gynnal yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ymhen pythefnos, fe ddaeth hi’n amlwg pa mor oedrannus ydi’r criw sy’n rhedeg un o sefydliadau mwyaf lliwgar y Gymru Gymraeg.

Ac eleni, wrth i’r Orsedd chwilio am Gofiadur newydd – dyn neu ddynes i ateb ymholiadau’r cyfryngau a chadw trefn ar y cofnodion – mae’r ystadegau’n dangos bod traean y 15 o swyddogion dros 80 oed; traean arall dros 70; a thua’u chwarter nhw dros 60 oed. Dim ond un swyddog o blith y pymtheg sydd yn ei 40au hwyr.

Mae cyfanswm oed y pymtheg swyddog o gwmpas 1,070 o flynyddoedd, a’r oed cyfartalog ychydig dros 71.

80+

Y cyn-Archdderwydd a’r Swyddog Cyfraith, Robyn Léwis, ydi swyddog hynaf Gorsedd y Beirdd (ganwyd yn 1929); gyda’i gyd gyn-Archdderwyddon John Gwilym (ganwyd 1936), Jim Parc Nest (ganwyd 1934) a Meirion (ganwyd 1931) ill tri dros eu 80 hefyd. Mae Huw Tomos, yr Ysgrifennydd Aelodaeth, yn croesi’r pedwar ugain eleni (ganwyd 1937).

70+

Mae traean o swyddogion yr Orsedd wedi cael yr addewid – yr Archdderwydd presennol, Geraint Llifon (ganwyd 1943); y Cofiadur Penri Tanad sy’n ymddeol wedi prifwyl Môn (ganwyd 1946); yr Arwyddfardd Dyfrig ab Ifor (ganwyd 1947); a’r Trysorydd, Eric Wern Fawr (ganwyd 1944). Fe fydd y Swyddog Cysylltiadau Celtaidd, Hywel Wyn, yn 70 ym mis Awst eleni (cyn-Drefnydd y brifwyl sydd newydd ei benodi yn lle Mererid Hopwood, 53).

60+ 

O’r rhai sy’n weddill o blith swyddogion yr Orsedd, ganwyd y Dirprwy Archdderwydd Christine yn 1954 (63 oed). Mae hi tua’r un oed â’r Trefnydd Cerddoriaeth, Cefin (ganwyd yn Hydref 1953); ac mae Ela Cerrigellgwm, Arolygydd y Gwisgoedd yn 64 oed (ganwyd Tachwedd 1952). Newydd gyrraedd ei 60 y mae aelod ieuengaf-ond-un y swyddogion, Gwyn o Arfon, a hynny ym mis Ebrill eleni (ganwyd 1957).

Dim ond un o dan 60

Robin o Fôn, Ceidwad y Cledd, ydi’r ieuengaf o blith swyddogion Gorsedd y Beirdd. Fe anwyd yr hyfforddwr rygbi a’r dyn cryf, Robyn McBryde, yn y flwyddyn 1970, sy’n ei roi yn 47 oed.

Bwrdd sy’n heneiddio hefyd

Yn ogystal â’r 15 o swyddogion uchod, mae yna unarddeg o aelodau eraill sy’n eistedd ar Fwrdd yr Orsedd. Y mae dau o’r rheiny dros eu 80 oed (Aled Llwyd a Madge); y mae pedwar dros 70 oed (Dorothy Bwlch-y-ffordd, Gwenda Pen Bont, Pedr Lawen ac Eigra); dau yn eu chwedegau (Annes a Manon Rhys); a thri arall yn eu 50au hwyr (Gwyn Treferthyr, Tafwysfardd ac Awen Gwyrfai).