Dai Lloyd AC
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr Aelod Cabinet, Ken Skates, yn galw arno i ddileu’r cynllun i greu cerflun dadleuol ger Castell y Fflint.

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun cynllun gwerth £630,000 i adnewyddu Castell y Fflint – cynllun fyddai’n cynnwys buddsoddiad £395,000 mewn cerflun y ‘Cylch Haearn’.

Mae enw’r cerflun yn cyfeirio at gyfres o gestyll cafodd eu hadeiladu gan y brenin, Edward y Cyntaf, i ormesu’r Cymry – Castell y Fflint oedd y cyntaf o’r cestyll yma.

“Mae’r bennod gyfan yn dangos ansensitifrwydd ac anwybodaeth ryfeddol ar ran Llywodraeth Cymru,” meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dai Lloyd.

“Mae hyn wedi bod yn fethiant trawiadol ar ran Llywodraeth Cymru wrth iddynt ddewis cerflun sy’n dathlu trechu Cymru gan Frenin Lloegr. Mae’r ffaith fod y syniad hwn wedi deillio o, ac yn mynd i gael ei hariannu gan, Lywodraeth Lafur Cymru yn wirioneddol syfrdanol.”

Fe fu Dai Lloyd yn dadlau ei achos ar raglen Adrian Chiles ar Radio 5 Live amser cinio heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 25).

Deiseb

Er cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ond ychydig ddyddiau yn ôl mae nifer o unigolion eraill eisoes wedi lleisio eu gwrthwynebiad tuag at y cynllun.

Hyd yma mae dros 6,700 wedi arwyddo deiseb ‘Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint’ cafodd ei sefydlu ar Orffennaf 23. Rydym yn galw ar y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i ddileu’r cynllun … gan ein bod yn ymwybodol o’r arwyddocâd hanesyddol o ran ‘Cylch Haearn’ Edward I a’i ddefnydd fel offeryn gormes,” meddai’r ddeiseb.

“Rydym yn teimlo bod hyn yn hynod o amharchus i bobol Cymru, a’n cyndeidiau wnaeth frwydro yn erbyn gormes ac annhegwch am gannoedd o flynyddoedd.”