Lesley Griffiths
Bydd cyfleuster milfeddygol newydd gwerth £4.2 miliwn yn cael ei sefydlu yn Aberystwyth.
Bydd prosiect Hyb Milfeddygol 1 yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth a’i nod fydd hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid.
Daw £3 miliwn o fuddsoddiad ariannol ar gyfer y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
 chymorth y buddsoddiad yma mi fydd swyddfeydd a “labordy manyleb uchel” – sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol – yn cael eu hadeiladu.
Yn sgil Hyb Milfeddygol 1, bydd ymchwilwyr yn cyfrannu at ddatblygu brechlynnau, yn mynd ati i ddatblygu atebion i glefydau, ac yn cyfrannu at ddatblygiadau maes biodechnoleg.
“Mynd i’r afael â’r heriau”
“Bydd y buddsoddiad hwn, gyda chefnogaeth yr UE, yn gymorth i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu o ran diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chanolbwyntio ar flaenoriaethau hirdymor Prifysgol Aberystwyth a Llywodraeth Cymru sef cefnogi gwyddorau milfeddygol ac iechyd anifeiliaid,” meddai Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, Lesley Griffiths.
“Hefyd, dros y blynyddoedd nesaf bydd yn datgloi amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi da byw a’r diwydiannau cysylltiedig a fydd yn elwa ar y cyfleuster newydd, a’r cyfleoedd ymchwil cydweithredol a fydd yn arwain at ddatblygu cynhyrchion newydd a gwasanaethau ar gyfer y farchnad fyd-eang.”