Dylai rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes addysg gael ei ymestyn, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Y Coleg Cymraeg sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch, gan alluogi rhagor o fyfyrwyr i astudio amrywiaeth o bynciau yn y Gymraeg.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, orchymyn adolygiad o’r corff y llynedd a chafodd Delyth Evans ei phenodi yn Gadeirydd ar y grŵp gorchwyl a gorffen a oedd wedi llunio’r adroddiad.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnig sawl argymhelliad gan nodi yn bennaf y dylai rôl y Coleg gael ei ymestyn i fod yn gorff sy’n “datblygu’r Gymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.”

Hefyd mae’n nodi y dylai’r corff gefnogi ysgolion dwyieithog a chyfrwng Saesneg yn ogystal ag ysgolion Cymraeg, ac yn dweud y dylai’r Coleg “barhau i gael ei ariannu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.”

“Cryfhau’r ddarpariaeth”

“Roedd yn bleser i mi ymgymryd â’r adolygiad fel cadeirydd ac rwyf yn ddiolchgar iawn i aelodau’r grŵp ac i’r sefydliadau ac unigolion a gyfrannodd i’r gwaith,” meddai’r Cadeirydd, Delyth Evans.

“Rwyf yn gobeithio y bydd yr adroddiad a’r argymhellion o gymorth i gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn y blynyddoedd i ddod.”

“Adnoddau teg”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi prif argymhellion yr adroddiad ond mae’r mudiad yn holi “a yw’r ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth i ddyrannu’r adnoddau i sicrhau llwyddiant y datblygiad hwn?”

Dywedodd Ffred Ffransis, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: “Gall y datblygiadau hyn gynnig atebion ar gyfer y sefyllfa warthus bresennol lle bo bron y cyfan o addysg yn y gweithle trwy gyfrwng y Saesneg, a bod disgyblion ysgol sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg o dan anfantais o ddiffyg adnoddau. Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heblaw am fod y Llywodraeth yn rhoi i’r Coleg ei hun adnoddau teg i gyflawni’r gwaith.”

Ychwanega: “Gall ddod â’r meysydd hyn dan un tô olygu fod y Coleg yn gallu creu cyrsiau arloesol newydd ar draws ffiniau traddodiadol i rymuso myfyrwyr gyda’r wybodaeth a sgiliau i roi hwb economaidd i Gymru.

“Yr unig bryderon sydd gyda ni o ddarllen yr adroddiad yw na fydd y Llywodraeth yn ymateb yn deilwng, ac hefyd yr awgrym y dylai’r Coleg fod yn bwyllgor marchnata a dyrannu adnoddau yn lle bod yn gorff addysgol arloesol yn ei hawl ei hun. Galwn ar y Gweinidog i egluro’r sefyllfa ar y ddau bwynt holl-bwysig hyn.”

“O blaid ehangu”

“Mae sefydliad y Coleg wedi chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno newid mawr yn ehangder a safon addysg uwch yng Nghymru,” meddai llefarydd  yr Iaith Gymraeg ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, Cadan ap Tomos.

“Ers amser hir mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod o blaid ehangu’r Coleg Cymraeg, gan sicrhau bod gymaint o ddysgwyr ag sy’n bosib, mewn cymaint o sefyllfaoedd ag sy’n bosib, yn cael y cyfle i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a chael mynediad at y wybodaeth a’r adnoddau maen nhw ei angen.”