Carwyn Jones Llun: Y Blaid Lafur
Fe ddylai fod yn bosib gadael yr Undeb Ewropeaidd ac aros yn y farchnad gyffredin, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Roedd aros yn rhan o’r farchnad sengl yn hanfodol, meddai Carwyn Jones, ac roedd yn hollol bosib.

Fe ddywedodd fod esiampl Norwy’n dangos hynny – dydyn nhw ddim yn aelodau o’r Undeb ond maen nhw’n rhan o’r farchnad sengl.

Ac ar ddechrau’r Sioe Fawr yn Llanelwedd, fe rybuddiodd y byddai gosod cyfyngiadau a thollau masnach yn gwneud drwg i ffermwyr.

“Pe na baen ni yn y farchnad sengl, fe fydden ni’n trafod sut i ddod yn rhan ohoni,” meddai ar raglen Today y BBC.

“Does dim rhaid i ni adael y farchnad sengl, hyd yn oed wrth adael yr Undeb Ewropeaidd.”

  • Fe gefnogodd alwadau hefyd ar i Lywodraeth Prydain ddechrau gwrando ar farn ffermwyr Cymru wrth drafod amaethyddiaeth a Brexit – roedd hynny’n hawl “democrataidd sylfaenol”, meddai.