Ann Clwyd (o'i chyfri Trydar)
Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd, yn galw ar ei phlaid i wrthwynebu Brexit yn llwyr.

“Mae’n hollol gyfreithlon i wrthwynebu unrhyw weithredu a fydd yn ddrwg i Brydain, ac sy’n difrodi ein heconomi, a difa swyddi,” meddai mewn cyfweliad ar y wefan newyddion walesonline.

“Ac mae pob tystiolaeth yn dangos mai dyna’n union y bydd Brexit yn ei wneud.

“Mewn democratiaeth mae bob amser yn bosibl i bobl ailfeddwl a dewis cyfeiriad arall.

“Pleidlais ymgynghorol oedd y refferendwm a gafodd ei ennill gyda mwyafrif bach iawn ar sail yr hyn sydd wedi profi i fod yn domen o gelwyddau.

“Mae pobl yn fwyfwy ymwybodol o safonau byw yn gostwng, chwyddiant cynyddol, twf arafach a chynhyrchiant is.”