Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion ar ôl i ddyn cael ei ladd mewn gwrthrawiad rhwng dau gar gerllaw Cwm, Glyn Ebwy, yn hwyr neithiwr.

Fe fu Peugeot 307 arian mewn gwrthdrawiad â Hyundai i10 arian tua 10.20 neithiwr ar ffordd yr A4046. Fe fu farw gyrrwr y Peugeot, dyn 41 oed, yn y fan a’r lle, a chafodd teithiwr ei gar a gyrrwr y car arall anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 573 21/07/2017.