Dylai’r £700 miliwn sy’n cael ei arbed wrth beidio trydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe gael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd eraill yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Maen nhw’n galw hefyd ar i bwerau dros seilwaith rheilffyrdd gael eu datganoli ar unwaith i weinidogion Cymru.

Mewn llythyr at Weinidog Trafnidiaeth Prydain, Chris Grayling, dywed Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, fod y cyhoeddiad i beidio â thrydaneiddio wedi bod yn un “siomedig iawn”.

“Byddai’r cynllun wedi bod yn fanteisiol iawn o ran amserau teithio, effeithlonrwydd ac allyriadau, gan hybu twf economaidd drwy dde Cymru,” meddai.

“Byddwn yn croesawu ymrwymiad gennych i sicrhau bod y £700 miliwn o gyllid a fyddai wedi cael ei neilltuo ar gyfer trydaneiddio i Abertawe yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau eraill yng Nghymru.

“Rhaid i hyn fod yn ychwanegol at gyfran deg o gyllid yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer gwelliannau eraill i reilffyrdd yn y dyfodol.”