Heddlu arfog ar faes Eisteddfod yr Urdd, Pencoed, y mis diwethaf
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd heddlu arfog ar rai o’r “prif gatiau a’r mynedfeydd” yn y Sioe Fawr.

“O ystyried fod lefel y bygythiad ar hyn o bryd yn ddifrifol gyda digwyddiadau diweddar mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gallaf gadarnhau yn ychwanegol at y presenoldeb dwysach cyffredin o’r Heddlu yn y sioe, fe fydd cymorth ychwanegol gan swyddogion arfog,” meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas y Sioe.

Dywedodd y byddan nhw yno i “dawelu meddwl y cyhoedd a darparu ymateb effeithiol i unrhyw fater.”

Lefel bygythiad

Er hyn dywedodd Steve Hughson, a fu’n gyn uwch swyddog gyda Heddlu Dyfed Powys, nad yw presenoldeb yr heddlu arfog yn rhywbeth newydd i’r sioe.

Esboniodd eu bod wedi cynnal “presenoldeb tebyg y llynedd, ac mae’n unol â’r holl brif ddigwyddiadau eraill ledled y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd fod y gymdeithas wedi ymgynghori â’r Heddlu ac Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru “i ddeall y lefelau bygythiad diweddaraf ac i weithredu yn ôl yr angen.”

Y Sioe Fawr

“Mae’r cyhoedd yn dod yn gyfarwydd iawn â gweld swyddogion arfog fel rhan o fywyd pob dydd, unai ar batrôl neu mewn digwyddiadau, ac rwy’n hyderus fod hyn yn cael ei dderbyn mewn ffordd gadarnhaol a chalonogol,” ychwanegodd Steve Hughson.

Mae’r newyddion yn dilyn penderfyniad Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed yn gynharach eleni, lle’r oedd heddlu arfog i’w gweld yn crwydro’r maes.

Mae’r Sioe Fawr yn dechrau yn Llanelwedd ddydd Llun (Gorffennaf 24) ac yn parhau tan ddydd Iau.