(llun: Heddlu Goggled Cymru)
Mae’r heddlu’n rhybuddio ymwelwyr sy’n neidio o ben pont mewn pentref gwyliau poblogaidd yn cael eu herlyn.

Mae Pont y Pair ym Metws y Coed wedi bod yn llecyn poblogaidd iawn i ymwelwyr neidio oddi ar y bont i’r afon islaw ers degawdau, gan gythruddo llawer o drigolion a pherchnogion busnesau lleol.

Yn ogystal â bod yn beryglus, mae neidio o’r bont yn rhwystr ar y ffordd wrth i bobl stopio a gwylio’r neidwyr. Mae mynediad ar draws y bont yn cael ei gyfyngu ac weithiau mae’r pentref cyfan yn dod i stop.

Dywedodd Rhingyll Tîm Cymdogaethau Diogelach Johnny Hill: “Mae yna arwyddion ar naill ochr y bont yn rhybuddio pobl rhag gwneud hyn, ac eto maen nhw yn parhau i droseddu. Mae’n lle peryglus iawn i neidio a gall unrhyw anafiadau a ddaw o hyn fod yn rhai difrifol iawn.

“Dw i’n gwybod bod pobl wedi bod yn neidio yma ers blynyddoedd ac mae rhai’n teithio o filltiroedd i gael gwneud hynny ond mae’n drosedd bellach  a bydd erlyniad llwyddiannus yn arwain at gael record droseddol.”

Mae camera cylch cyfyng wedi ei osod gan y cyngor ger y bont a bydd hwn yn cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu a’r cyngor lleol i gasglu tystiolaeth i erlyn pobl am y troseddau hyn.