Mae tri dyn o Albania sy’n byw yng Nghaerdydd wedi’u carcharu am bron i 20 mlynedd am fod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant, gyda’r bwriad o’i werthu.

Fe wnaeth Kristian Bujaj, 26, Klaudio Dorotfei, 25 ac Ermal Zina, 39, ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 21 Gorffennaf, ar ôl pledio’n euog i fwriadu gwerthu cyffuriau a gwyngalchu arian.

Cafodd dau o’r dynion – Ermal Zina a Klaudio Dorotfei – eu carcharu am chwe blynedd ac wyth mis a chafodd Kristian Bujaj ei garcharu am chwe blynedd.

Chwilio eiddo ym Mhentwyn a Threganna

Cafodd y tri eu harestio gan swyddogion a chwiliodd dau eiddo wedi cysylltu â’r dynion yn Hawthorns, Pentwyn ac ar Ffordd Nesta, Treganna ar 7 Chwefror, 2017.

Roedd y tri dyn yn yr eiddo ym Mhentwyn pan wnaeth yr heddlu ddarganfod dau becyn maint bricsen â chocên gwerth £200,000, ynghyd â nwyddau eraill fel ffonau a chlorian pwyso digidol.

Yn y cyfeiriad yn Nhreganna, cafwyd hyd i thua £6,000 wedi’i guddio dan lawr pren.

Fe blediodd y tri dyn yn euog i’r cyhuddiadau yn eu herbyn a byddan nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa yn Llys y Goron Caerdydd tan iddyn nhw gael eu dedfrydu.