Jeremy Turner
Heno yn Aberystwyth fe fydd gig yn y bandstand i ddechrau gŵyl sy’n para pythefnos ac yn gyfres o gyngherddau, gweithdai creadigol a gorymdeithiau lliwgar a theatrig.

Uchafbwynt Gŵyl Hen Linell Bell fydd ‘Gwledd Gwyddno’ gan Theatr Arad Goch fydd ail-gread o’r wledd a arweiniodd at foddi Cantre’r Gwaelod yn y chwedl am Fae Ceredigion.

Yn y wledd fawr, fe fydd y cyhoedd yn cael eistedd wrth fwrdd hir, hir ar hyd y prom, a’r sioe yn cael ei pherfformio o’u blaen.

Ac fe fydd fersiwn tywod o Gaer Gwyddno, brenin Cantre’r Gwaelod, yn cael ei greu ar y traeth, a’i chwalu gan y llanw.

“Dw i wastad wedi bod eisiau gwneud rhywbeth awyr agored ar y prom yn Aberystwyth, rhywbeth creadigol a pherfformiadol,” meddai Jeremy Turner a sefydlodd gwmni Arad Goch yn 1989.

“Ro’n i’n arfer gwneud llawer o waith theatr stryd, pan oeddwn i’n ifanc ac yn heini, ac rydan ni’n hoff o gynnwys y gymuned yn ein gweithgareddau ni.”

Mae’r ŵyl yn agor nos Wener gyda gig yn y Bandstand newydd ar y prom, gyda’r grwpiau Omaloma, HMS Morris ac R Seiliog – a bar trwyddedig yno am y tro cynta’.

Daw enw’r ŵyl o englyn enwog y Prifardd Dewi Emrys, ‘Y Gorwel’, a’r llinell ‘Hen linell bell nad yw’n bod…’

“Mae rhywbeth am y seici Celtaidd sy’n edrych tua’r gorllewin, i fan gwyn fan draw, i ynys yr hud. Mae pob math o chwedlau a chaneuon a cherddi sydd gynnon ni sydd am rywbeth dy’n ni byth yn gallu ei gyrraedd e. Mae’n rhan o’n hisymwybod ni fi’n credu,” meddai Jeremy Turner.

“I fi, mae’r gorwel yn rhywbeth sy’n uno pobol Ceredigion; r’yn ni’n gallu gweld y gorwel o’n traethau, o’n promenadau, o’n caeau, o’n mynyddoedd, o’n bryniau, o’n ffermydd – dyna pam y gwnes i benderfynu defnyddio’r gerdd yna.”

Gŵyl Hen Linell Bell, Aberystwyth, Gorffennaf 21 – Awst 5

Mwy am yr ŵyl yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.