Mae taith i ddathlu blwyddyn  o lendid priodasol wedi troi mewn i “bach o hunllef” i gwpwl o Gymru ar ynys Roegaidd Kos ar hyn o bryd.

Roedd Owain Llywelyn Morris – dyn sy’n wreiddiol o Ben Llŷn ac yn byw yng Nghaerffili – wedi bwriadu aros ar yr ynys tan 3 Awst… ond yn sgîl daeargryn wnaeth daro’r ardal neithiwr mae’n dechrau cael traed oer.

“Mae wedi bod bach yn manic,” meddai wrth golwg360, dim ond rhyw ddwy funud ar ôl i’r tir stopio grynu.

“Rydan ni mond wedi cyrraedd. Neithiwr oedd yr ail noson. Oedd y cynlluniau yma i gyd genna ni ac mae pob dim yn disgyn i ddarnau ar y funud.”

“Brawychus”

Mae Owain Morris wedi bod yn aros mewn gwesty sydd ond rhyw ddwy filltir i ffwrdd o’r man lle cafodd dau berson eu lladd yn sgil y crynfeydd. Mae’n sôn am brofiadau “brawychus” neithiwr.

“Wnes i roi’r golau ymlaen,” meddai. “O’n i’n clywed pobol yn sgrechian. Roedd y waliau yn ysgwyd. Roedd y brics yn dangos yn y waliau ac yn dod yn agosach atom ni. Roedd o’n frawychus.

“Gwnaethom ni redeg allan o’r adeilad ynghyd â 800 o bobol eraill. Roedden ni yn y maes parcio o tua hanner awr wedi un yn y bore. Roedd y cryndod yn ddrwg adeg yna. Roedden ni yn y maes parcio am oriau.”

“Dal yn fregus”

Ar hyn o bryd mae Owain Morris a’i wraig tu fewn yn y gwesty ac yn nodi ei fod yn rhy boeth i fynd tu allan, ond mae hefyd yn pryderu bod hi’n annoeth i gysgodi yn y gwesty.

“Rydan ni yn y gwesty ar hyn o bryd,” meddai. “Ond rydan ni ddim yn hapus i aros fan hyn.  Mae [staff y gwesty] yn dweud bod yr adeilad yn saff ond tydan ni ddim yn teimlo bod o. Mae dal yn reit fregus yma.  Pan rydach chi’n edrych ar yr adeilad rydach chi’n gweld craciau. Mae’n reit ryfedd.”