Mae pob tocyn i Sesiwn Fawr Dolgellau wedi ei werthu, a hynny am y tro cyntaf ers i’r ŵyl ail-ddechrau yn 2011.

Bydd Bob Delyn a’r Ebillion, Calan, Sŵnami a Sorela ymysg y bandiau yn diddanu’r dorf, ac mae noson o gomedi stand-yp hefyd.

Ac er bod hi’n addo glaw trwm dros y penwythnos, mae’r trefnwyr yn benderfynol na fydd gwlybaniaeth yn tampio’r awydd am hwyl.

“Mae’n llacio yma rŵan ac yn ôl y rhagolygon, mae’n mynd i fod yn well heno yma a chawodydd fory. Rydan ni wedi arfer efo glaw yng Nghymru!” meddai Ywain Myfyr.

“Mae tocynnau wedi mynd ar gyfer y penwythnos – pob dim – does yna ddim un ar ôl felly os wneith hi stopio bwrw, bydd hynny’n fonws ond fel arall, ry’n ni’n edrych ymlaen at benwythnos da.”

Mi wnaeth tocynnau ar gyfer nos Wener a dydd Sadwrn yr ŵyl werthu allan erbyn bore dydd Mercher ac erbyn bore dydd Iau, roedd tocynnau dydd Sul i gyd wedi mynd hefyd.

“Dyma’r tro cyntaf [i hynny ddigwydd]. Ry’n ni wedi gwerthu allan ar y noson o’r blaen ond dyma’r tro cyntaf ymlaen llaw.”

Nid oedd Ywain Myfyr yn fodlon dweud faint yn union o docynnau sydd wedi eu gwerthu, ond mae’r nifer yn y cannoedd.

Pwy sy’n canu?

Bydd yr ŵyl werin yng nghanol dref Dolgellau yn dechrau heno. Dyma fanylion o berfformiadau rhai o’r prif artistiaid:

Nos  Wener

Gwesty’r Royal Ship

18:30 Fleur De Lys

19:30 Cilmeri

20:45 Bob Delyn a’r Ebillion

22:00 Calan

23:15 Sŵnami

Caffi T H Roberts

18:30 Jazz: Huw Warren, Zoot Warren, Greg Robley, Garry Bywater, Max Vitalli, Richy Jones, Barbara Bergin.

Dydd Sadwrn

Tŷ Siamas

12:30 Tant

13:30 Glain Rhys

14:30 Magi Tudur

15:30 Sera

Gwesty’r Royal Ship

17:45 Climbing Trees

19:00 Dallahan

20:15 Yr Eira

21:30 Coco and the Butterfields

23:00 Peatbog Faeries

Dydd Sul

Gwesty’r Royal Ship

12:00 Osian Morris

13:00 Tecwyn Ifan

14:00 Gai Toms

15:00 Lewis & Leigh

16:00 Sorela

17:00 Alys Williams

18:00 Sipsi Gallois

Caffi T H Roberts

20:00 Noson Gomedi gyda Daniel Glyn, Dan Thomas, Sarah Breeze a Hywel Pitts.