Maes Awyr Caerdydd
Mae rheolwyr traffig awyr yn y Deyrnas Unedig yn paratoi ar gyfer eu diwrnod prysuraf erioed.

Bydd rheolwyr yn gyfrifol am gyfanswm o 8,800 o deithiau awyrennau ym Mhrydain dros gyfnod o 24 awr heddiw.

A hithau’n ddechrau’r tymor gwyliau mae disgwyl y bydd 770,000 taith awyr dan reolaeth rheolwyr dros yr Haf – sy’n gynnydd o 40,000 o gymharu â’r llynedd.

Mae Maes Awyr Caerdydd hefyd yn paratoi ar gyfer gwyliau prysur ac mae’n debyg y bydd tua 260,000 yn teithio oddi yno dros yr haf eleni – 7% yn fwy nag yn 2016.

Mae Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol  (NATS) wedi gwario £600 miliwn ar dechnoleg newydd er mwyn eu galluogi i ymdopi â’r cynnydd yn y teithiau, ac eto maen nhw yn rhybuddio bod eu gallu i ymdopi â’r galw yn dirywio.

Rhagolygon

“Dyma gyfnod prysuraf y flwyddyn i ni ac mae twf traffig yn uwch na’r rhagolygon bob blwyddyn,” meddai Cyfarwyddwr NATS, Jamie Hutchinson.

“Rydym eisoes wedi llwyddo i ymdopi â lefelau uchel dros ben o draffig dros yr wythnosau diwethaf. Ond, mae cynllun gofod awyr y Deyrnas Unedig wedi heneiddio. Yn fuan byddwn yn cyrraedd pwynt lle nad oes modd atal lefelau uchel o oedi ar deithiau.”