Yr eglwys (Llun cyhoeddusrwydd yr ymgyrch i'w hachub)
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn anwybyddu’r rhan o’r ddinas lle cafodd dyn ei ladd pan gwympodd adeilad yn gynt yr wythnos hon.

“Mae angen i’r sefyllfa newid,” meddai un o drigolion ardal Sblot, Charlie Smith, sy’n by wyn agos at ble digwyddodd y ddamwain.

Cafodd Jeffrey Plevey, 55, ei ladd pan ddymchwelodd hen eglwys brynhawn dydd Mawrth – flwyddyn ar ôl i’r cyngor rybuddio bod peryg i’r adeilad gwympo ar reilffordd gerllaw.

Mae’r Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi dweud bod “rhaid gofyn cwestiynau” am yr hyn ddigwyddodd i adeilad ‘y Citadel’.

Blaenoriaethau

“O ran datblygu Caerdydd, mae Sblot yn dueddol o fod tua gwaelod y rhestr o flaenoriaethau, ac mae angen i hynny newid,” meddai Charlie Smith.

“Pe bai adeilad yn yr un cyflwr â’r eglwys mewn ardal fel Pontcana neu Benarth, dw i ddim yn teimlo y byddai wedi cael ei adael mewn cyflwr mor beryglus am gyhyd.

“Fe ddylai ymchwiliadau diogelwch gael eu cynnal ar strwythur sawl adeilad yn yr ardal.”

‘Pryderon ers amser maith’

Roedd yr adeilad wedi bod yn wag am rai degawdau ac yn ôl Charlie Smith, y ffaith ei fod yn adeilad cofrestredig sydd wedi arwain at y diffyg gwaith cynnal a chadw ar yr eglwys.

“Dw i’n byw yn y stryd ers dwy flynedd a dw i a phobol eraill wedi teimlo ers peth amser fod yr adeilad yn anniogel, yn enwedig am ei fod mor agos i’r ffordd sy’n cysylltu Sblot ac Adamsdown.

“Cafodd y trawstiau eu tynnu oddi ar yr adeilad ddydd Sul gan gwmni adeiladu, ac roedd yn edrych yn dasg beryglus iawn oherwydd maint y craen oedd yn cael ei ddefnyddio mor agos i’r eglwys.

“Yn bersonol, dw i’n teimlo y dylai’r eglwys fod wedi cael ei thynnu i lawr neu ei hadnewyddu flynyddoedd yn ôl, ond mae’n hawdd dweud hynny wrth edrych yn ôl ar ôl y digwyddiad.”

Dywedodd fod yr ymdeimlad yn y gymuned “wedi newid o ddryswch i alar”.

‘Angen ymchwilio’

Mae arweinydd newydd Cyngor Dinas Caerdydd, wedi dweud bod angen ymchwilio i weld pam fod yr adeilad wedi cael dirwyio i’r fath raddau.

Roedd ymgyrch wedi bod yn lleol i geisio achub yr adeilad ac i wneud yn siwr ei fod yn cael ei ddatblygu mewn ffordd a fyddai’n gweddu i’r gymuned.

Mae’r ffordd yng nghysgod yr adeilad yn dal i fod ynghau wrth i’r gwasanaethau brys weithio i glirio’r rwbel.