Passchendaele (Llun parth cyhoeddus)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn teithio i Wlad Belg ar ddiwrnod ola’r mis i gofio am y milwyr a laddwyd yn y frwydr lle bu farw Hedd Wyn.
Fe ddywedodd Theresa May y bydd hi’n “anrhydedd” iddi fod mewn seremoni yn Passchendaele i gofio dechrau’r frwydr a laddodd ac anafu mwy na 300,000 o ddynion.
Fe fydd hi ac aelodau o deulu brenhinol Prydain yno ar 31 Gorffennaf, union ganrif ers diwrnod cynta’r ymladd pan laddwyd Hedd Wyn o Drawsfynydd, Bardd y Gadair Ddu.
Roedd yr ymladd yn Passchedaele yn 1917 ymhlith y lladdfeydd gwaetha’ yn hanes y Rhyfel Mawr, gyda’r ddwy ochr yn ymladd am fisoedd i geisio meddiannu ychydig dir yn ardal Ypres.
Meddai May
“Mae’r enw Passchendaele yn taro tant gyda phawb sy’n gwybod dim o gwbl am y Rhyfel Byd Cyntaf,” meddai Theresa May.
“Ar y caeau hynny y bu cannoedd o filoedd o ddynion o bob cenedl yn ymladd ac yn marw mewn amgylchiadau dychrynllyd.
“Fe fydd y digwyddiad yma’n deyrnged addas, nid yn unig i’r dynion hynny, ond hefyd i’r teuluoedd a’r cymunedau a effeithwyd wrth eu colli.”
Y Cymro, David Lloyd George, oedd Prif Weinidgo Prydain adeg y frwydr.