Andrew 'Tommo' Thomas
A hithau’n wythnos gyfan ers i Andrew ‘Tommo’ Thomas ddarlledu ar Radio Cymru, mae BBC Cymru yn gwrthod datgelu manylion yr ymchwiliad i gŵyn am y cyflwynydd.

Ac mae Clwb Pel-droed Abertawe, sy’n talu i Tommo wneud gwaith gyda chefnogwyr, wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n ymchwilio oherwydd nad ydyn nhw wedi derbyn cwyn yn ei erbyn.

Doedd llefarydd ar ran yr Elyrch ddim am wneud sylw ar y mater, ond fe gadarnhaoedd nad oedd ymchwiliad ar y gweill, ac nad oedd y BBC wedi cysylltu â nhw. Mae Tommo yn gwneud gwaith yn Fanzone Clwb Pêl-droed Abertawe ger Stadiwm y Liberty.

Doedd Cyfarwyddwr Gweithredol y Scarlets yn Llanelli, lle mae Tommo yn cyhoeddi ar yr uchelseinydd yn ystod gemau, ddim ar gael i siarad â golwg360 heddiw, ac roedd swyddog y wasg ar ei wyliau.

Dim sylw pellach

“Nid oes ganddon ni unrhyw sylw pellach,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru wrth golwg360.

Mae golwg360 yn deall mai sylwadau rhywiol sydd y tu cefn i’r gŵyn wnaeth arwain at waharddiad Tommo oddi ar ei raglen ar Radio Cymru.

Yn sgil ei waharddiad, Elen Pencwm sydd yn cyflwyno’r slot rhwng 2yp a 5yp rhwng dydd Llun a dydd Iau.